Mae holl ddarparwyr CCSR yn rheoli eu gwybodaeth broffil ei hun. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am eich sefydliad a'ch lleoliadau gofal. Cewch ddangos eich dogfennaeth allweddol e.e. yr adroddiadau arolygu diweddaraf a'ch cynllun prisiau. Y cwbl drwy glicio botwm yn syml.
Cewch chi ychwanegu gwybodaeth am ba fath o ofal gallwch chi ei gynnig, yn ogystal â chadw'r cyfleusterau sydd gennych chi ar gael yn gyfredol. Mae hyn yn golygu y caiff eich lleoliadau chi eu cynnwys yn y system a'u defnyddio i baru'ch gwasanaethau chi â'r plentyn cywir.
Mae lleoedd gwag yn weladwy i'r sawl sy'n chwilio am leoliadau ac mae dod o hyd i leoliad yn digwydd mewn llu o wahanol ffyrdd gan gynnwys cyhoeddi tendr fframwaith, cyhoeddi tendr di-fframwaith; a chysylltu'n uniongyrchol â'r sefydliad darparu neu leoliadau gofal.
Bydd adroddiadau a dangosfyrddau yn eich helpu i fonitro'n effeithiol, ac yn helpu i ddarparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynllunio busnes yn y dyfodol. Bydd darpariaeth gwybodaeth reoli o'r system yn dangos i chi pa mor aml mae'r bobl sy'n chwilio am leoliadau yn edrych ar eich cynigion chi.
Mae gennych chi'r dull i gadw'ch gwybodaeth yn gyfredol. Bydd gennych chi a'ch tim fynediad i ddiweddaru'r proffiliau ar gyfer eu sefydliad a lleoliadau gofal mewn amser real. Mae tim CCSR yn monitro ac yn adolygu gweithgarwch craidd sydd wedyn yn cael ei gadarnhau gydag AGC neu OFSTED i fodloni protocol cadarn o reoli gwybodaeth.
Mae gennych chi fynediad i ganllawiau hyfforddiant i ddefnyddwyr, cymorth ynghylch defnyddio'r system, cyngor technegol a gallwch chi wneud cais hefyd am ddefnyddwyr ychwanegol (os bydd eu hangen).
Mae'r tim cymorth cyfeillgar, sy'n cynnwys cymorth ar-lein a thros y ffôn i bob defnyddiwr, ar gael rhwng 09:00-16.30, ddydd Llun i ddydd Gwener.
Yn adnodd sefydledig o fewn Cymru ers mwy na degawd, ar hyn o bryd mae CCSR yn mynd drwy gyfnod o ddatblygiad.
Mae ffurflen ‘Paru Lleoliad Unigol (IPM)’ ar wedd newydd sy’n cynnwys:
Hefyd gall defnyddwyr olrhain statws cyflwyniad ffurflen IPM eu sefydliad o’r dudalen manylion tendro.
Bydd y ‘Dangosfwrdd Brys’ yn helpu i hwyluso chwiliadau brys yr un diwrnod neu’r diwrnod wedyn.
Mae gwelliannau wedi cael eu siapio gan adborth ac awgrymiadau oddi wrth ddefnyddwyr yn ogystal â'r ymgynghoriad gwerthfawr gan Gonsortiwm Comisiynu Plant Cymru (4Cs).