Mae'r system yn gwneud yn siŵr bod yr holl rwymedigaethau diogelu data yn cael eu bodloni. Mae’r holl ddogfennau'n cael eu rhannu’n ddiogel rhyngoch chi a'r awdurdod lleol.
Mae ffi flynyddol o £500 ynghyd â TAW (llai na £10 yr wythnos).
Mae hyn yn rhoi mynediad i chi i becyn a fydd yn eich helpu i gynllunio a datblygu’ch busnes, yn ogystal â bod yn ddull cost-effeithiol iawn o farchnata’ch busnes i bob awdurdod lleol yng Nghymru.
Cofiwch, cost un-tro yw hon am 12 mis heb unrhyw gostau ychwanegol am weinyddiaeth na thrwyddedu.
I gofrestru a chael eich sefydliad chi’n fyw ar CCSR, bydd angen i chi gwblhau ein ffurflen cofrestru darparwyr fer ar-lein.