English

Children's Commissioning Support Resource

Pam ymuno â CCSR?

Os ydych chi'n cynnig lleoliadau i blant, yna mae CCSR yn addas i chi...

Mae CCSR yn cael ei ddefnyddio gan bob awdurdod lleol yng Nghymru i baru plant â lleoliadau.

Mae'n gweithredu'n ffenestr siop ar gyfer y sawl sy'n comisiynu gwasanaethau i chwilio am leoliadau gofal ac yn darparu rhestr o'r lleoedd sydd ar gael yn y sector maethu annibynnol a gofal preswyl.

Mae CSSR, sy'n cael ei ariannu gan awdurdodau lleol a darparwyr, yn cynnig gwasanaeth paru ar sail canlyniadau pwrpasol yn ogystal â chreu amgylchedd cystadleuol ar gyfer tendro i leoliadau awdurdod lleol mewn amgylchedd sy'n agored, yn strwythuredig ac yn deg.

Pam CCSR?

Mae CSSR, a sefydlwyd yn 2005, yn arf comisiynu cenedlaethol wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae ganddo fynediad at holl farchnad awdurdodau lleol ar gyfer lleoli gyda darparwyr annibynnol.

Mae CCSR yn borth ar y we heb unrhyw gostau trwyddedu, sy'n golygu y gall darparwyr gael defnyddwyr diderfyn gyda mynediad i'r adnodd diogel hwn.

Beth yw barn comisiynwyr gwasanaeth?

"Mae darparwyr yn gallu lanlwytho a chynnal eu dogfennaeth allweddol eu hun, felly mae gennym ni fynediad i'w hadroddiadau arolygu diweddaraf"

"Mae'r cyfeiriadur darparwyr yn gadael i mi godi'r ffôn a galw unrhyw ddarparwr ar y system".