Cymraeg

Children's Commissioning Support Resource

Telerau ac Amodau CCSR

v1.1

Cefndir CCSR

Gwasanaeth yw’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant (CCSR) (https://www.ccsr-wales.net) sy’n ceisio cynorthwyo’r broses o ddod o hyd i leoliadau gofal priodol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Menter gydweithredol gydgysylltiedig lwyddiannus yw hi a weithredir gan Gonsortiwm Comisiynu ar gyfer Plant Cymru (4Cs), darparwyr gofal annibynnol a Data Cymru.

Caiff y gwasanaeth ei lwyfannu, ei ddatblygu a’i reoli gan Data Cymru (“ni”) a’i ganolbwynt yw cronfa ddata amser real sy’n caniatáu i ddefnyddwyr baru plant â darpariaeth ar sail proffil o’u gofynion.

Telerau defnydd

Teclyn gyda mynediad cyfyngedig yw CCSR. Mae mynediad iddo wedi’i gyfyngu i’r defnyddwyr canlynol (“chi”):

  • comisiynwyr a swyddogion sy’n dod o hyd i adnoddau o fewn awdurdodau lleol Cymru; a
  • chyflogeion darparwyr gofal annibynnol/gwirfoddol.

Caiff rhai cyflogeion Data Cymru a chyflogeion Consortiwm Comisiynu ar gyfer Plant Cymru (y 4Cs) hefyd fynediad i’r gwasanaeth er mwyn rheoli a chynnal y gwasanaeth.

Mae’r telerau defnydd hyn (ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) yn eich hysbysu am y telerau defnydd sy’n berthnasol wrth i chi ddefnyddio gwasanaeth CCSR.

Darllenwch y telerau defnydd hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio CCSR, am y bydd y rhain yn berthnasol i’ch defnydd o’r gwasanaeth. Argymhellwn eich bod yn arbed neu’n argraffu copi o hyn er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol.

Drwy ddefnyddio CCSR, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnydd hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych yn cytuno i’r telerau defnydd hyn, mae’n rhaid i chi beidio â defnyddio’n gwasanaeth.

Newidiadau i’r telerau hyn

Gallem ddiwygio’r telerau ar unrhyw adeg drwy addasu’r dudalen hon. Dylech wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd a chymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnawn, am eu bod yn rhwym arnoch.

Ffioedd tanysgrifio

Caiff tanysgrifiadau awdurdodau lleol i’r gwasanaeth eu rheoli gan y 4Cs. Mae ffioedd darparwyr yn amrywio yn dibynnu a yw’r darparwr yn rhan o’r Fframwaith Cymru gyfan a weithredir gan y 4Cs.

Mae darparwyr nad ydynt yn rhan o’r fframwaith yn destun cost danysgrifio safonol o £500 (a TAW) y flwyddyn. Mae costau darparwyr fframwaith yn uwch ac yn gymesur yn ôl maint y darparwr.

Er mwyn cynnal cydlyniad a chysondeb â chyrff rheoleiddio; mae cyfrifon darparwr CCSR yn adlewyrchu'r darparwr cofrestredig a nodwyd yn nhystysgrifau cofrestru lleoliadau / gwasanaethau a reoleiddir. Mae angen cyfrif CCSR ar gyfer pob darparwr cofrestredig.

Bydd yr holl ddarparwyr sy’n defnyddio CCSR yn ddarostyngedig i’r un mecanwaith tanysgrifio. Byddwn yn anfonebu’r swyddog cyllid cyswllt enwebedig ar gyfer eich tanysgrifiad blynyddol yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd wrth gofrestru.

Codir hanner y gost danysgrifio flynyddol i ddarparwyr newydd sy’n ymuno ar ôl 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn benodol ar gyfer y flwyddyn honno. Mewn blynyddoedd dilynol codir y tanysgrifiad blynyddol llawn arnynt.

Canslo tanysgrifiad ac ad-daliadau

Er mwyn canslo’ch tanysgrifiad dylech gysylltu â Desg Gymorth CCSR i drafod y broses ganslo raddedig.

Ni chynigir unrhyw ad-daliadau tanysgrifio ni waeth pryd byddwch yn canslo.

Cyrchu’r gwasanaeth

Mae’r Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant (CCSR) yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr gofrestru er mwyn defnyddio’r adnodd. Wrth gofrestru, gofynnwn i chi am wybodaeth bersonol er mwyn creu proffil defnyddiwr.

Caiff yr wybodaeth a ddarparwch ei defnyddio i greu a rheoli eich cyfrif. Mae rhywfaint o wybodaeth yn orfodol - fel eich enw, cyfeiriad e-bost dilys, llinell gyntaf eich cyfeiriad, cod post a rhif ffôn. Ni dderbynnir cofrestriadau dienw. Cymysgedd fydd eich enw defnyddiwr a grëir gan y system o’ch enw cyntaf a’ch cyfenw.

Gall y 4Cs a ninnau gofrestru defnyddwyr newydd. Gallem ofyn i chi gwblhau ffurflen fer er mwyn casglu’r manylion a gaiff eu defnyddio i greu eich cyfrif defnyddiwr.

Gall darparwyr ofyn am sawl cyfrif defnyddwyr fesul darparwr sydd wedi'i gofrestru ar CCSR.

Cofrestru darparwr newydd

Wrth gofrestru fel darparwr newydd ar CCSR bydd angen i chi gwblhau ffurflen ar-lein: http://www.data.cymru/cym/ccsr-registration

Gofynnir i chi ddarparu tri math o enw cyswllt a gaiff eu defnyddio yn system CCSR. Mae’r rhain i gyd yn gallu bod yr un person, neu gallant fod yn bobl wahanol.

  • Prif bwynt cyswllt - Y cyswllt sy’n cael ei restru yn CCSR ar gyfer y corff. Fel arfer, rheolwr atgyfeiriadau neu rywun tebyg fyddai hyn, a byddai’r unigolyn yma’n rhywun i gysylltu â nhw ynghylch lleoliadau a lleoedd gwag.
  • Defnyddiwr CCSR wedi ei enwebu - Y cyswllt/cysylltiadau sy’n gyfrifol am gynnal a diweddaru cofnod cronfa ddata CCSR ar gyfer y corff. Mae hyn yn cynnwys cadw’r lleoedd gwag yn gyfredol, adio a chynnal gwybodaeth am leoliadau gofal ac ymateb i dendrau/atgyfeiriadau am leoliad ac ati. Cewch chi sefydlu dau ddefnyddiwr CCSR wedi eu henwebu yn ystod y broses.
  • Cyswllt ariannol - Y prif gyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau ariannol gan gynnwys ffioedd tanysgrifio, anfonebau, archebion prynu ac ati.

Yn rhan o’r broses gofrestru, gofynnir hefyd i ddarparwyr gofal ddarparu gwybodaeth am eu tystysgrif gofrestru. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddilysu darpariaeth yn erbyn gwybodaeth cyfeirio a ddarperir i ni gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac OFSTED. Bydd enw cyfrif darparwr CCSR yn adlewyrchu enw'r cwmni a restrir fel y darparwr cofrestredig yn y dystysgrif gofrestru.

Ymddygiad a chyfrifoldeb

Disgwyliwn i chi fod yn gwrtais ac ystyried eraill wrth ddefnyddio CCSR.

Chi sy’n llwyr gyfrifol am yr holl gynnwys rydych yn ei gyhoeddi yn CCSR. Nid yw Data Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ganlyniadau sy’n codi yn sgil defnyddio’r gwasanaeth, nac am unrhyw gynnwys a ychwanegir gan ei ddefnyddwyr.

Chi sy’n gyfrifol am yr holl gynnwys rydych yn ei ddefnyddio, ei gyfathrebu neu’n ei gyhoeddi wrth ddefnyddio’r gwasanaeth. Am hynny, mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych yr holl gydsyniadau, trwyddedau, caniatadau a’ch bod wedi eich awdurdodi yn ôl y gyfraith i arddangos y cynnwys rydych yn ei ddefnyddio mewn perthynas â’r gwasanaeth.

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am drefniadau a wneir rhwng defnyddwyr ac ni allwn weithredu fel cymedrolwr. Nid ydym yn fetio nac yn asesu uniondeb y defnyddwyr. Os byddwch yn cydweithio gyda defnyddwyr, rydych yn gwneud hyn gan dderbyn pob risg yn sgil hynny eich hunan.

Darperir enw mewngofnodi a chyfrinair i chi wrth gofrestru. Mae’n rhaid i chi drin gwybodaeth o’r fath yn gyfrinachol. Mae’n rhaid i chi beidio â’i datgelu i unrhyw drydydd parti.

Mae gennym yr hawl i ddiarddel unrhyw ddefnyddiwr ar unrhyw adeg os ydych wedi methu, yn ein barn ni, â chydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau yn y telerau defnydd hyn.

Amser segur

Nodwch ein bod yn cadw’r hawl i drefnu amser segur ar gyfer y gwasanaeth a hynny at ddibenion cynnal a chadw, atgyweirio a gwella’r gwasanaeth – gwneir hyn yn ystod adegau nad ydynt yn ystod oriau busnes.

Ni fyddwn yn atebol i chi os nad yw ein gwasanaeth ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod o amser.

Rheoli data

Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i ddiogelu unrhyw wybodaeth a gasglwn wrthych chi. Rydym yn defnyddio technolegau a meddalwedd amgryptio o’r radd flaenaf i warchod eich data, a glynwn wrth safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad anawdurdodedig iddo.

Rydym yn defnyddio is-broseswyr, NSUK, i storio ein data mewn modd diogel a sicr. Caiff yr holl ddata ei storio yn y DU.

Diogelu data

Bydd Data Cymru yn cydymffurfio bob amser â’r Cyfreithiau Diogelu Data. Am fwy o wybodaeth ynghylch sut byddwn yn diogelu’r data personol a gasglwn gennych, gweler ein Polisi Preifatrwydd.

Mae Data Cymru yn gweithredu fel Rheolydd Data ar gyfer unrhyw ddata personol y gofynnir i chi ei ddarparu wrth i chi gofrestru gyda’r system.

Mae’n bosibl bydd eich enw defnyddiwr penodedig a’ch enw go iawn ar gael i’w gweld gan ddefnyddwyr eraill mewn rhai rhannau o’r gwasanaeth. Mae’r holl fanylion eraill yn gwbl gyfrinachol ac nid ydym yn trosglwyddo unrhyw rannau o’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon.

Rydym yn defnyddio is-broseswyr, NSUK, i storio ein data mewn modd diogel a sicr. Am hynny, maent yn gweithredu o fewn y telerau a osodir gennym ni. Caiff yr holl ddata ei storio yn y DU.

Mae Data Cymru yn gweithredu fel Prosesydd Data ar gyfer yr holl ddata a gofnodwch neu a lanlwythwch i wasanaeth CCSR. Mae hyn yn golygu mai chi yw’r Rheolydd Data. Nid oes mandad gennym i adolygu ansawdd, cywirdeb na chynnwys gwybodaeth gyd-destunol yn ymwneud â phlentyn sy’n derbyn gofal neu ofalwr. Rydym yn annog mewnbynnu gwybodaeth sy’n gywir ac yn amserol.

Byddwn bob amser yn cyfyngu mynediad i’ch data personol i gyflogeion sydd wedi llofnodi cytundebau cyfrinachedd priodol.

Byddwn bob amser yn cynnal camau ffisegol a sefydliadol i ddiogelu data personol sy’n eiddo i chi a/neu a rennir gennych ac yn sicrhau ei fod yn ddiogel. Rydym yn defnyddio technolegau a meddalwedd amgryptio o’r radd flaenaf i warchod eich data, a glynwn wrth safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad anawdurdodedig iddo.

Lle y bo’n briodol, dim ond am y cyfnod y bydd ei angen neu sy’n ofynnol yn ôl statud y caiff gwybodaeth ei storio, a chaiff ei gwaredu’n briodol. Protocol CCSR yw i beidio â dileu cofnodion, am ei bod yn bwysig cadw trywydd archwilio data sy’n nodi’r camau a gymerwyd i ddod o hyd i leoliadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a gallai hyn gael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol mewn amgylchiadau lluosog. Fodd bynnag, lle bo angen, caiff eich proffil ei droi’n ddienw.

Datgelu

Gallem rannu data agregedig a dienw o CCSR gydag asiantaethau fel y 4Cs, awdurdodau lleol a sefydliadau annibynnol/gwirfoddol sy’n cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Terfynau ein hatebolrwydd

Does dim byd yn yr amodau hyn sy’n pennu terfynau ein hatebolrwydd am farwolaeth neu anafiadau o ganlyniad i esgeulustod, twyll, cynrychioli twyllodrus neu unrhyw atebolrwydd arall nad oes modd cyfyngu arno neu ei wadu yng nghyfraith Cymru a Lloegr.

I’r graddau sy’n bosibl yn ôl y gyfraith, dyma eithrio pob amod, gwarant a chynrychioli (neu unrhyw delerau eraill) – boed trwy fynegi neu awgrymu – allai fod yn berthnasol i’n gwefan a’r hyn sydd arni.

Fyddwn ni ddim yn atebol i’r un defnyddiwr am unrhyw golled neu niwed boed trwy gytundeb, methu â chyflawni dyletswydd statudol, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu unrhyw fodd arall – hyd yn oed pe gallen ni fod wedi rhagweld hynny – ynglŷn â’r canlynol:

  • defnyddio ein gwasanaeth neu heb allu ei defnyddio; neu
  • defnyddio unrhyw gynnwys sydd ar y wasanaeth neu ddibynnu arno.

Os ydych chi’n ddefnyddiwr masnachol, dylech chi nodi na allwn ni dderbyn cyfrifoldeb am:

  • colli elw, busnes, cyllid neu gyfleoedd i werthu nwyddau a gwasanaethau;
  • torri ar draws busnes;
  • colli arbedion oedd wedi’u darogan;
  • colli ewyllys ac enw da neu gyfleoedd i fasnachu; neu
  • • unrhyw golled neu niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol.

Fyddwn ni ddim yn gyfrifol am unrhyw golled neu niwed o achos firws, ymosodiad ar sustemau i’w rhwystro rhag rhoi gwasanaethau ar gael nac unrhyw fath arall o ddeunydd technegol niweidiol a allai effeithio ar eich cyfrifiadur, ei gyfarpar, ei raglenni, ei ddata neu unrhyw ddeunydd arall rydych chi’n berchen arno o ganlyniad ichi ddefnyddio ein gwasanaeth, llwytho peth o’i chynnwys i lawr neu gyrchu unrhyw wefan arall sydd wedi’i chysylltu â hi.

Allwn ni ddim derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau sydd wedi’u cysylltu â’n gwefan. Dim ond er gwybodaeth ichi y bydd dolenni o’r fath yno. Felly, ddylech chi ddim tybio ein bod wedi cymeradwyo cynnwys y gwefannau hynny. Fyddwn ni ddim yn atebol am unrhyw golled neu niwed o ganlyniad ichi ddefnyddio gwefannau ac adnoddau o’r fath am nad ydyn nhw o dan ein rheolaeth.

Hawlfraint eiddo deallusol

Cewch chi argraffu copïau a llwytho i lawr rannau o unrhyw dudalennau sydd ar ein gwasanaeth ar gyfer eich defnydd personol neu ar ran pobl rydych chi’n eu cynrychioli. Cewch chi dynnu sylw pobl yn eich sefydliad at wybodaeth sydd ar y wasanaeth, hefyd.

Chewch chi ddim newid mewn unrhyw ffordd gopïau papur neu ddigidol unrhyw ddeunydd rydych chi wedi’i argraffu neu ei lwytho i lawr. Chewch chi ddim cymryd unrhyw luniau, fideos neu dapiau sain a’u defnyddio ar wahân heb y testun gwreiddiol, chwaith.

Rhaid cydnabod bob amser ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr anhysbys) fel awduron cynnwys yn ein gwasanaeth. Chewch chi ddim defnyddio unrhyw ran o gynnwys ein gwefan i ddibenion masnachol heb drwydded gennyn ni neu gan ein trwyddedwyr.

O argraffu, copïo neu lwytho i lawr unrhyw ran o’n gwasanaeth yn groes i’r amodau hyn, daw eich hawl i ddefnyddio ein gwefan i ben yn syth ac mae gyda ni hawl i fynnu ichi roi unrhyw gopïau sy’n weddill yn ôl i ni neu eu malu.

Firysau

Allwn ni ddim gwarantu y bydd ein gwasanaeth yn ddiogel ac yn rhydd rhag firysau neu heintiau eraill. Chi sy’n gyfrifol am drefnu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a sustemau i gyrchu ein gwasanaeth. Dylech chi ddefnyddio eich meddalwedd eich hun i’ch diogelu rhag firysau.

Peidiwch â chamddefnyddio ein gwefan ni trwy gyflwyno o’ch bwriad firysau, rhaglenni cudd, arfau rhesymeg neu unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n niweidiol o safbwynt technolegol. Ddylech chi ddim ceisio cyrchu heb ganiatâd ein gwasanaeth, y gweinydd sy’n cynnal ein gwasanaeth nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n gwasanaeth ni.

Peidiwch ag ymosod ar ein gwasanaeth trwy amharu ar ei gallu i roi gwasanaethau ar gael. O weithredu yn groes i’r gofyn hwn, fe fyddech chi’n cyflawni trosedd yn ôl Deddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn ni’n rhoi gwybod am unrhyw droseddu o’r fath i’r awdurdodau gorfodi perthnasol ac yn cydweithredu â nhw trwy ddatgelu pwy ydych chi. Pe baech chi’n cyflawni trosedd o’r fath, deuai eich hawl i ddefnyddio ein gwasanaeth i ben yn syth.

Y gyfraith sy’n berthnasol

Cyfraith Lloegr sy’n berthnasol i’r amodau hyn, y pynciau sydd wedi’u trafod ynddyn nhw a modd eu llunio. Rydych chi’n cytuno â ni mai llysoedd Cymru a Lloegr fydd yn barnu ar unrhyw faterion perthnasol. Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, fodd bynnag, cewch chi fynd i’r gyfraith yno. Os ydych chi’n byw yn yr Alban, cewch chi fynd i’r gyfraith yn y wlad honno, hefyd.

Toradwyedd

Petai llys cymwys sy’n meddu ar yr awdurdodaeth gywir o’r farn nad oes modd gorfodi unrhyw gymal neu is-gymal yn y Telerau ac Amodau hyn, caiff y cymal neu’r is-gymal hwnnw ei dorri ac ni fydd hyn yn effeithio ar weddill y cytundeb, gan gynnwys unrhyw gymalau neu is-gymalau eraill.

Cysylltu â Ni

I gysylltu â ni, anfonwch neges at: CCSRenquiries@data.cymru.

Diolch am ddod i’n gwefan ni.